Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd/ Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 29 Medi 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
 


291(v6)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.

Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

 

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(15 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

</AI3>

<AI4>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 3-6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)

 

</AI4>

<AI5>

3       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020

 

NDM7396 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI5>

<AI6>

4       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020

 

NDM7383 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI6>

<AI7>

5       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020

 

NDM7399 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI7>

<AI8>

6       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

 

NDM7395 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

</AI8>

<AI9>

7       Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Gronfa Cadernid Economaidd – Cam 3

(45 munud)

 

</AI9>

<AI10>

8       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Canol Trefi: diogelu eu dyfodol

(45 munud)

 

</AI10>

<AI11>

9       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:  Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - GOHIRIWYD TAN 13 HYDREF

(0 munud)

</AI11>

<AI12>

10    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd - GOHIRIWYD TAN 6 HYDREF

(0 munud)

 

</AI12>

<AI13>

11    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth

(30 munud)

NDM7400 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Amaethyddiaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2020 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Amaethyddiaeth (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)

 

Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig:

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth (Saesneg yn unig)

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

 

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth (Saesneg yn unig)

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

 

</AI13>

<AI14>

12    Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

(15 munud)

NDM7398 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

</AI14>

<AI15>

13    Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020

(15 munud)

NDM7393 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

</AI15>

<AI16>

14    Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

(15 munud)

NDM7394 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Awst 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

</AI16>

<AI17>

15    Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gyfyngiadau Coronafeirws Lleol

(45 munud)

 

</AI17>

<AI18>

16    Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

(60 munud)

NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;

2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;

3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;

4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Dogfennau Ategol

Adroddiad yr Ymgynghoriad: Crynodeb (FfDC drafft)

Adroddiad yr Ymgynghoriad (FfDC drafft)

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC: Crynodeb Annhechnegol

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC

FfDC: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Rhestr o newidiadau i ddrafft y FfDC

 

Gwelliant 1 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

 

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw.

 

Os derbynnir Gwelliant 1, bydd Gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol.

 

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w holl dinasyddion.

 

</AI18>

<AI19>

17    Cyfnod pleidleisio

 

 

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 30 Medi 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>